8 Hydref 2015
Annwyl Weinidog
Etifeddiaeth y Pedwerydd Cynulliad: cais am wybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 24 Medi
Diolch i chi am ddod i'r sesiwn dystiolaeth ar 24 Medi 2015.
Yn ystod y cyfarfod, trafodwyd y graddau y mae ehangu cwmpas asesiadau effaith cydraddoldeb y gyllideb ddrafft i gynnwys anfantais economaidd-gymdeithasol wedi bod yn llwyddiannus. Yn dilyn y cyfarfod, gofynnodd yr Aelodau i mi ysgrifennu atoch i ofyn a wnaed unrhyw werthusiad o hyn ac, os felly, a allech roi manylion i'r Pwyllgor am y canlyniad.
Edrychaf ymlaen at eich ymateb.
Yn gywir,
Christine Chapman AC
Cadeirydd